Jeremiah 2:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy war a dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo; ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’ Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryn a than pob coeden ddeiliog, a gorweddian ar led fel putain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau, a dweud, 'Ni wasanaethaf'. Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, plygaist i buteinio.