Jeremiah 2:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Asen wyllt wedi ei chynefino â'r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a'i try ymaith? pawb a'r a'i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwch yn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru. Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna. Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl, mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch, yn ei blys yn ffroeni'r gwynt. Pwy a atal ei nwyd? Ni flina'r un sy'n ei chwennych; fe'i cnt yn ei hamser.