Jeremiah 2:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a'm cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’ Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i. Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthion maen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedant wrth bren, 'Ti yw fy nhad', ac wrth garreg, 'Ti a'm cenhedlodd'. Troesant ataf wegil, ac nid wyneb; ond yn awr eu hadfyd dywedant, 'Cod, achub ni'.