Jeremiah 2:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun? Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw, pan wyt ti mewn trafferthion! Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti? Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd. Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus 'th ddinasoedd, O Jwda.