Jeremiah 2:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt; doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro. Chi eich hunain laddodd eich proffwydi fel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd. Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.