Jeremiah 2:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a'th ddwylo ar dy ben: oblegid yr ARGLWYDD a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi'n dod allan o'r sefyllfa yma hefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd. Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti'n pwyso arnyn nhw; fyddi di ddim yn llwyddo gyda'i help nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Doi allan oddi yno hefyd, a'th ddwylo ar dy ben, oherwydd gwrthoda'r ARGLWYDD y rhai yr ymddiriedi ynddynt, ac ni lwyddi drwyddynt.