Jeremiah 2:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr ARGLWYDD a'n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a'n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaethon nhw ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, a'n harwain ni drwy'r anialwch? — ein harwain trwy dir diffaith oedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll; tir does neb yn mynd trwyddo, a lle does neb yn byw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddywedasant, 'Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft, a'n harwain yn y diffeithwch, mewn tir anial, llawn o dyllau, tir sychder a thywyllwch dudew, tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?'