Jeremiah 2:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Des i a chi i dir ffrwythlon a gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da. Ond pan aethoch i mewn yno dyma chi'n llygru'r tir, a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi yn ffiaidd yn fy ngolwg i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygais chwi i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni; ond daethoch i mewn a halogi fy nhir, a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.