Jeremiah 2:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr ARGLWYDD? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i'm herbyn, a'r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD?’ Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraith ddim yn fy nabod i. Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn, a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal, ac yn dilyn delwau diwerth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddywedodd yr offeiriaid, 'Ple mae'r ARGLWYDD?' Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod, a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn; proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesd.