Jeremiah 20:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a'i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a'i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i. “‛Dychryn ym mhobman‛ wir! Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!” Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi yn disgwyl i'm gweld i yn baglu. “Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion, wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywais sibrwd gan lawer dychryn-ar-bob-llaw: "Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!" Y mae pawb a fu'n heddychlon mi yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud, "Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno."