Jeremiah 20:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig. Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu. Fyddan nhw ddim yn ennill! Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant. Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi, fel rhyfelwr cadarn; am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant, ac nid anghofir fyth eu gwarth.