Jeremiah 20:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a'r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn, ac yn gweld y galon a'r meddwl; rho imi weld dy ddialedd arnynt, canys dadlennais i ti fy nghwyn.