Jeremiah 20:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a'i holl lafur, a phob dim a'r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a'u hanrheithiant hwynt, ac a'u cymerant, ac a'u dygant i Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.