Jeremiah 20:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thithau, Pasur, a phawb a'r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y'th gleddir, ti, a'r rhai oll a'th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy du375?, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.'"