Jeremiah 20:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ARGLWYDD, ti a'm hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i, a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny. Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi. A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl. Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd. Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi. Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd, a phawb yn fy ngwatwar.