Jeremiah 20:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi, “Mae trais a dinistr yn dod!” Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf, "Trais! Anrhaith!" yw fy llef. Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.