Jeremiah 20:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto. Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!” Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi. Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl, ond alla i ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywedaf, "Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw", y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tn wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.