Jeremiah 21:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i'n herbyn? neu, Pwy a ddaw i'n hanheddau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffryn ar y byrdd-dir creigiog — dw i yn dy erbyn di!’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma. Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffryn wrth graig y gwastadedd," medd yr ARGLWYDD. "Fe ddywedwch chwi, 'Pwy ddaw i waered yn ein herbyn? Pwy ddaw i mewn i'n gwl?'