Jeremiah 21:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer, a mi a'u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.