Jeremiah 21:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi fy hun a ryfelaf i'ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr.