Jeremiah 21:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a'u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.'