Jeremiah 22:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Paid crïo am fod y brenin wedi marw. Paid galaru ar ei ôl. Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd. Fydd e ddim yn dod yn ôl adre, Gaiff e byth weld ei wlad eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano; wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith, oherwydd ni ddychwel mwyach, na gweld gwlad ei enedigaeth.