Jeremiah 22:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest. Ti'n lladd pobl ddiniwed, yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn, i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.