Jeremiah 22:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: “Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud, ‘O, dw i mor drist, fy mrawd! O, dw i mor drist, fy chwaer!’ Fydd neb yn dweud ‘O, druan o'n harglwydd ni’ ‘O, druan o'r brenin!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: "Ni alarant amdano, a dweud, 'O fy mrawd! O fy nghr!' Ni alarant amdano, a dweud, 'O Arglwydd! O Fawrhydi!'