Jeremiah 22:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o'th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder, ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.” Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf — dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lleferais wrthyt yn dy wynfyd; dywedaist, "Ni wrandawaf." Dyma dy ffordd o'th ieuenctid, ac ni wrandewaist arnaf.