Jeremiah 22:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff, fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus. Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn. Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ti, sy'n trigo yn Lebanon, ac a fagwyd rhwng y cedrwydd, O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr, pangfeydd fel gwraig yn esgor!