Jeremiah 22:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a'th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.