Jeremiah 23:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig; gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno. Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi," medd yr ARGLWYDD.