Jeremiah 23:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a'i thrigolion fel Gomorra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio eu cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll: godinebu a rhodio mewn anwiredd; y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus, fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni. I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra."