Jeremiah 23:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i'm pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o'u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau, a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.