Jeremiah 23:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, 'Breuddwydiais, breuddwydiais!'