Jeremiah 23:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr ARGLWYDD, ac a'u mynegant, ac a hudant fy mhobl â'u celwyddau, ac â'u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl 'u hanwiredd a'u gwagedd," medd yr ARGLWYDD. "Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnnt ddim lles i'r bobl hyn," medd yr ARGLWYDD.