Jeremiah 23:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond am faich yr ARGLWYDD na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y DUW byw, ARGLWYDD y lluoedd, ein DUW ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD holl-bwerus, y Duw byw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fyddwch yn sn eto am 'faich yr ARGLWYDD', oherwydd daeth 'baich' i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.