Jeremiah 23:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.