Jeremiah 24:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda'r seiri a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Roeddwn i'n gweld dwy fasged yn llawn o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac yno yr oedd dau gawell o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hyn ar l i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, a'r crefftwyr a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.