Jeremiah 24:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddaf hefyd iddynt galon i'm hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â'u holl galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhof iddynt galon i'm hadnabod, mai myfi yw'r ARGLWYDD; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. Byddant yn troi ataf fi 'u holl galon.'