Jeremiah 24:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a'r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi eu gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Fel y ffigys drwg, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent, yr ystyriaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, a gweddill Jerwsalem a adewir yn y wlad hon, a'r rhai sy'n trigo yng ngwlad yr Aifft.