Jeremiah 25:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a'i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,' medd yr ARGLWYDD, 'a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.