Jeremiah 25:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi — popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.