Jeremiah 25:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.