Jeremiah 25:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna mi a gymerais y ffiol o law yr ARGLWYDD, ac a'i rhoddais i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD fi atynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd ble'r anfonodd fi yfed ohoni:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt: