Jeremiah 25:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i'r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'r bobl o dras cymysg sy'n byw yno. Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;