Jeremiah 25:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.'