Jeremiah 25:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.'