Jeremiah 25:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd — o'r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg a tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.