Jeremiah 25:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr ARGLWYDD oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw: ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod, o'r lle sanctaidd ble mae'n byw. Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith. Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin, wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud, 'Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder; o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef; rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle; gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin, yn erbyn holl breswylwyr y tir.