Jeremiah 25:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd, ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan. Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd gan y cleddyf!’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd, canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd, ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd, ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.'"