Jeremiah 25:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall. Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall; cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.