Jeremiah 25:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a'ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuwch udo a chrïo, chi arweinwyr y bobl! Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl. Mae diwrnod y lladdfa wedi dod. Cewch eich gwasgaru. Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch; ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd; canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru, ac fe gwympwch fel llydnod dethol.