Jeremiah 26:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW; ac fe a edifarha yr ARGLWYDD am y drwg a lefarodd efe i'ch erbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn.